Carwyn Eckley
Descarga y escucha en cualquier lugar
Descarga tus episodios favoritos y disfrútalos, ¡dondequiera que estés! Regístrate o inicia sesión ahora para acceder a la escucha sin conexión.
Descripción
Aelod anrhydeddus o Deulu Llanhari yw’r Prifardd Carwyn Eckley. Enillodd y Gadair a noddwyd gennym yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Cadwyn’. Cawsom...
mostra másEnillodd y Gadair a noddwyd gennym yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Cadwyn’.
Cawsom fore braf yng nghwmni Carwyn yn rhannu ein taith i noddi’r Gadair ar gweithgareddau fu’n rhan o’r profiad.
Huw ac Owain sy’n mwynhau sgwrs a diolch iddynt am roi’r byd yn ei le gyda’r newyddiadurwr, bardd a’r cefnogwr pêl-droed brwd a diolch i Carwyn am roi o’i amser er mwyn i ni ddod i adnabod enillydd Y Gadair.
Tipyn o gamp cyfweld â dau brifardd ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2024 o fewn pythefnos – a chyswllt bellach gan y tri â’r ysgol!
Noddi’r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd cam cyntaf ein dathliadau eleni wrth i’r ysgol ddathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.
Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Información
| Autor | Y Pod Cyf. |
| Organización | Y Pod Cyf. |
| Página web | - |
| Etiquetas |
Copyright 2026 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comentarios