Creu amodau i gynnal gwelliant
Descarga y escucha en cualquier lugar
Descarga tus episodios favoritos y disfrútalos, ¡dondequiera que estés! Regístrate o inicia sesión ahora para acceder a la escucha sin conexión.
Descripción
Pa mor bwysig yw diogelwch seicolegol yn y gweithle? Beth yw'r effaith ar les a chynhyrchiant? Yn ein trafodaeth gyda'r gwestai, Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, mae’n son am ei...
mostra másMae Nicola Williams wedi bod yn arweinydd blaenllaw ar gyfer mentrau diogelwch seicolegol. Mae hi wedi arwain ymdrechion o fewn yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys arwain y Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel. Bydd Nicola yn trafod llwyddiannau, heriau, a phwysigrwydd meithrin amgylchedd seicolegol diogel i staff a chleifion.Mae’n bwysig meithrin amgylchedd, meddai, “ lle mae timau'n teimlo eu bod yn gallu cymryd risgiau, yn gallu mynegi syniadau a phryderon, eu bod yn gallu codi llais pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le a chyfaddef mewn gwirionedd i gamgymeriadau sy'n anodd iawn i rai heb ofni y bydd canlyniadau neu ganlyniadau negyddol i hynny.”
Cawn ddeall hanfod diogelwch seicolegol, ei goblygiadau ar gyfer unigolion a diwylliant sefydliadol, a strategaethau ymarferol ar gyfer ei weithredu a'i wella. Mae Nicola yn tynnu sylw at bwysigrwydd blaenoriaethu diogelwch seicolegol mewn lleoliadau gofal iechyd er mwyn gwella llesiant a pherfformiad.
Yn y bennod Gymraeg hon, actor sy’n lleisio geiriau Nicola Williams. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/creating-the-conditions-for-sustainable-improvement--59283958
Información
Autor | Improvement Cymru |
Organización | Cari Hoskins |
Página web | - |
Etiquetas |
-
|
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company