Hac Iechyd Cymraeg
Descarga y escucha en cualquier lugar
Descarga tus episodios favoritos y disfrútalos, ¡dondequiera que estés! Regístrate o inicia sesión ahora para acceder a la escucha sin conexión.
Descripción
Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg? Mae...
mostra másMae clinigwyr a gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn wynebu problemau fel hyn dydd ar ôl dydd ac yn aml ddim yn gwybod at bwy i droi.
Yn y podlediad hwn fe fyddwn ni’n codi’r llen ar yr Hac Iechyd Cymraeg 2019 , sef ‘marathon dyfeisio’ dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, lle daeth dros gant o bobl ynghyd i greu atebion digidol neu dechnolegol i’r sialensiau hyn- yn apiau, prototeip neu syniad o gynnyrch newydd.
Meddai Ifan Evans, cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru: “ Mae systemau iechyd yn llawn pobl sydd yn alluog iawn, wedi’u hyfforddi’n broffesiynol tu hwnt, ac yn aml yn edrych yn fewnol er mwyn ceisio atebion i’r heriau hynny. Ond dwi’n meddwl bod na gyfleoedd mawr i rannu hynny’n allanol gyda diwydiant, gyda phrifysgolion, a chleifion, achos yn aml iawn ma’r syniadau creadigol yn medru dod o’r sectorau eraill.”
“Mae’r sesiwn hyn yn cysylltu’r pobl sydd â arian i ddatblygu projects newydd gyda phobl sydd â phroblemau a’r gallu, er mwyn creu’r dechnoleg sydd yn mynd i helpu, “ medd Siôn Charles, is-gyfarwyddwr Comisiwn Bevan oedd yn arwain y diwrnod.
Y gobaith yw y bydd yr arloesi cydweithredol yma yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion Cymru.
Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Información
Autor | hello@lshubwales.com |
Organización | hello@lshubwales.com |
Página web | - |
Etiquetas |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company