Jordan Morgan-Hughes
Regístrate gratis
Escucha este episodio y muchos más. ¡Disfruta de los mejores podcasts en Spreaker!
Descarga y escucha en cualquier lugar
Descarga tus episodios favoritos y disfrútalos, ¡dondequiera que estés! Regístrate o inicia sesión ahora para acceder a la escucha sin conexión.
Descripción
Ein Mr Urdd a llawer mwy! Un o wynebau cyfarwydd ddoe a heddiw Llanhari yw gwestai’r bennod hon. Yn wreiddiol o ardal Pen-y-bont, bu’n ddisgybl yma rhwng 1994 a 2001. ...
mostra másUn o wynebau cyfarwydd ddoe a heddiw Llanhari yw gwestai’r bennod hon. Yn wreiddiol o ardal Pen-y-bont, bu’n ddisgybl yma rhwng 1994 a 2001. Am gyfnod, bu’n gweithio i Fenter Iaith Bro Ogwr, cyn dechrau gweithio i Urdd Gobaith Cymru yn 2009 fel Swyddog Datblygu.
Yn 2016 symudodd swyddfa’r Urdd ar gyfer y rhanbarth i Lanhari a bu’n cyd-fyw yn hapus yng nghoridor yr Adran Gymraeg tan y flwyddyn 2021. Bu’n trefnu Eisteddfodau, teithiau, gweithgareddau, gigs a chyfleoedd di-ri i ieuenctid yr ysgol a’r rhanbarth gan feithrin eu cariad at Gymru a’r Gymraeg ac ennill parch disgyblion.
Eve a Lili-Mei sy’n arwain y sgwrsio a’r hel atgofion am daith iaith Jordan ac am y cyfleoedd brofwyd ganddyn nhw yng nghyfnod Jordan gyda’r Urdd.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Información
Autor | Y Pod Cyf. |
Organización | Y Pod Cyf. |
Página web | - |
Etiquetas |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company