Prosiect cymunedol i leihau nifer galwadau 999
Descarga y escucha en cualquier lugar
Descarga tus episodios favoritos y disfrútalos, ¡dondequiera que estés! Regístrate o inicia sesión ahora para acceder a la escucha sin conexión.
Descripción
Pan fydd person oedranus yn cwympo yn y cartref, yn aml yr ymateb cynta i’r gofalwyr yw i ffonio am ambiwlans. Gyda bron i hanner miliwn o bobl dros 65...
mostra másMae’r podlediad yma yn trafod prosiect cydweithredol sy'n anelu at leihau galwadau ambiwlans pan fo rhywun yn cael codwm yn y cartref yng Nghymru. Esbonia Eleri D’Arcy o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe nodweddion a nodau y prosiect, gan bwysleisio effaith economaidd-gymdeithasol cwympo ar bobl hŷn. “Yn y bwrdd iechyd, rydym yn cydnabod bod codwm wedi bod yn broblem enfawr ers nifer o flynyddoedd,” meddai. “Bellach mae gennym dechnoleg newydd a all ein cefnogi i wneud penderfyniadau gwell a chefnogi pobl gartref am gyfnod hirach.”
Mae Demi Catterill o Grŵp Gofal ‘Simply Safe’ yn ymhelaethu ar eu gwaith a'r hyfforddiant a gynhaliwyd, gan nodi swyddogaeth yr ap iStumble yn y broses benderfynu.
Amy Jenkins o Gyngor Abertawe sy’n son am rôl y cyngor yn cefnogi'r prosiect a meithrin dulliau gofal amgen. Nodir cymorth y Grŵp cydweithredol Gofal Diogel am ddarparu strwythur a sicrhau cynnydd systematig, gyda chyfraniad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i leihau galwadau amhriodol.
Yn y bennod Gymraeg hon, actorion sy’n lleisio geiriau’r cyfrannwyr. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/a-local-collaboration-community-project-to-help-reduce-999-calls--59283960
Información
Autor | Improvement Cymru |
Organización | Cari Hoskins |
Página web | - |
Etiquetas |
-
|
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company