Portada del podcast

Am Blant

  • Sut mae plant yn dysgu neu'n caffael iaith? A ydy trochi iaith yn effeithiol?

    22 SEP. 2022 · Gwrandewch ar y drafodaeth ddifyr a chyfoes hon yng nghwmni aelodau'r panel: Owain Gethin Davies (Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy), Alaw Humphreys (Mudiad Meithrin) ac Esyllt Hywel Evans, yr Athro Enlli Thomas, a Dr Nia Young o Ysgol Gwyddorau Addysgol Prifysgol Bangor.
    Escuchado 45m 48s
  • Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?

    8 AGO. 2022 · Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn? Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
    Escuchado 1h 12m 48s
  • Beth ydy chwarae?

    14 JUN. 2022 · Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae? Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae. Mwynhewch y gwrando!
    Escuchado 50m 46s
  • Llais Rhieni

    19 MAY. 2022 · A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr? I gael gwybod mwy gwrandewch ar bodlediad rhif 5 yn y gyfres AM BLANT yng nghwmni Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Sion Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.
    Escuchado 50m 24s
  • Hawliau Plant

    8 FEB. 2022 · Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc. Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19? Gwrandewch ar y podlediad i gael gwybod mwy.
    Escuchado 1h 4m 52s
  • Beth sydd ei angen ar blentyn...?

    11 ENE. 2022 · Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu? Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?
    Escuchado 47m 29s
  • Beth yw ieuenctid?

    7 DIC. 2021 · Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid? Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw? Faint o ryddid sydd ar gael iddynt a sut fath o ddyfodol sydd o'u blaenau?
    Escuchado 54m 27s
  • Beth yw Plentyndod?

    11 NOV. 2021 · Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.
    Escuchado 49m 4s
  • Croeso i bodlediad Am Blant

    5 NOV. 2021 · Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc. Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gwahanol feysydd yn trafod materion fel chwarae plant, datblygu iaith trwy gerddoriaeth, anawsterau dysgu, effaith Cofid ar blant a llu o bynciau difyr eraill. Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn.
    Escuchado 55s

Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl...

mostra más
Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc.

Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gwahanol feysydd yn trafod materion fel chwarae plant, datblygu iaith trwy gerddoriaeth, anawsterau dysgu, effaith Cofid ar blant a llu o bynciau difyr eraill.

Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn.
mostra menos
Contactos
Información

Parece que no tienes ningún episodio activo

Echa un ojo al catálogo de Spreaker para descubrir nuevos contenidos.

Actual

Portada del podcast

Parece que no tienes ningún episodio en cola

Echa un ojo al catálogo de Spreaker para descubrir nuevos contenidos.

Siguiente

Portada del episodio Portada del episodio

Cuánto silencio hay aquí...

¡Es hora de descubrir nuevos episodios!

Descubre
Tu librería
Busca