Portada del podcast

Am Filiwn

  • Am Lwyfan

    11 AGO. 2023 · Pam bod cymaint o berfformwyr yn dewis dilyn cwrs dysgu? Ydy hi wir yn bosib cael yr un wefr â’r theatr, y gig neu’r stiwdio o flaen disgyblion? Mi fydd Rhian-Mair Jones yn holi’r canwr, John Ieuan Jones, Marged Rhys sy’n aelod o’r band gwerin Plu, Lora Lewis, sydd wedi treulio blynyddoedd yn llais cefndir i sawl grŵp, yr actores, Victoria Pugh, Rhys Edwards o Fleur de Lis a’r pennaeth ysgol, Gareth Owen, er mwyn gweld pa mor hawdd ydy symud o’r llwyfan a’r llifoleuadau i awditoriwm gyffrous yr ystafell ddosbarth.
    Escuchado 59m 57s
  • Beth, pam a sut ydyn ni’n trawsieithu?

    7 JUL. 2023 · Bydd y Dr Cen Williams a fathodd y term trawsieithu, Yr Athro Enlli Thomas, Dr Bryn Jones o Brifysgol Bangor a Dr Sian Lloyd-Williams, Prifysgol Aberystwyth a myfyrwyr AGA Prifysgol Bangor yn mynd i’r afael â thrawsieithu yn y podlediad yma.
    Escuchado 52m 10s
  • Am Lythrennedd

    23 JUN. 2023 · Pam bod gennym ni Fframwaith Llythrennedd? Sut mae dod i ddeall bod llythrennedd yn hanfodol ar draws y cwricwlwm? Dafydd Roberts a Medi Wyn Edwards o GwE, a Sion Owen o Brifysgol Abertawe sy’n trafod y datblygiadau diweddaraf yn y sectorau cynradd ac uwchradd a’r cyffro newydd am lythrennedd.
    Escuchado 53m 8s
  • Am Drochfa

    9 JUN. 2023 · Beth am blymio i’r dwfn efo ni ar ymweliad â Chanolfan Iaith Porthmadog yng Ngwynedd er mwyn dysgu mwy am natur y gwaith eithriadol sy’n digwydd yno dan ofal Cari Haf Lewis. Mi gawn ni gyfarfod Jess a Chloe a’u rhieni - dwy ferch arbennig sy’n hapus braf yn sgwrsio yn y Gymraeg yn dilyn eu trochfa ddwys yn yr iaith.
    Escuchado 47m 19s
  • Am Drochi

    26 MAY. 2023 · Mae ymchwil yn dangos mai trochi disgyblion mewn iaith newydd yw’r ffordd orau o gaffael yr iaith honno. Ond beth yn union yw trochi a phryd mae o’n digwydd? Er mwyn gwybod mwy am werth y gwaith anhygoel sy’n digwydd mewn gwahanol ganolfannau a deall mwy am y cefndir academaidd, ymunwch efo Nesta Davies, Pennaeth Uned Iaith Ynys Môn, Dr Mirain Rhys, darlithydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd a Siân Alwen, Pennaeth Mewn Gofal Ysgol Glan Clwyd er mwyn bwrw goleuni ar drochi.
    Escuchado 57m 9s
  • AmDani

    12 MAY. 2023 · Ar ben pob dim arall, mae’r Siarter Iaith a’r pwysau ar athrawon ddatblygu Cymraeg Cymdeithasol y disgyblion! Beth ydy pwrpas hyn? Ymunwch efo Gwenan Ellis Jones, Awdurdod Addysg Gwynedd, Iona Llŷr o Awdurdod Addysg Sir Caer, Gareth Williams, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Gŵyr, a disgyblion Ysgol Brynrefail er mwyn cael deall yn union pam bod datblygu a defnyddio’r iaith y tu allan i furiau’r dosbarth yn hanfodol ac amhrisiadwy wrth fynd amdani am y miliwn.
    Escuchado 52m 55s
  • Croeso i bodlediad Am Filiwn

    5 MAY. 2023 · Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr! Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol. Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando! Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru! Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
    Escuchado 1m 44s

Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu...

mostra más
Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr!

Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol.

Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando!

Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru!

Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
mostra menos
Contactos
Información

Parece que no tienes ningún episodio activo

Echa un ojo al catálogo de Spreaker para descubrir nuevos contenidos.

Actual

Portada del podcast

Parece que no tienes ningún episodio en cola

Echa un ojo al catálogo de Spreaker para descubrir nuevos contenidos.

Siguiente

Portada del episodio Portada del episodio

Cuánto silencio hay aquí...

¡Es hora de descubrir nuevos episodios!

Descubre
Tu librería
Busca