Portada del podcast

Nerth dy Ben

  • Ceridwen a Llywela

    18 OCT. 2022 · Sgwrs bendigedig rhwng dwy efaill, Ceridwen a Llywela, am yrfa ar ôl coleg, dylanwad y cyfryngau cymdeithasol, mwynhâd o lwyddo ym myd y pel-droed a’r pwysa sy’n bodoli ar ddelwedd.
    Escuchado 25m 12s
  • Ceridwen a Gwern

    14 OCT. 2022 · Tro yma mae Ceridwen yn rhoi’r byd yn ei le hefo Gwern Pierce. Cymeriad a hanner sydd a’i draed ar y ddaear ac sy’n ceisio byw ei fywyd gyda un feddylfryd benodol…! Sgwrs hamddenol braf a gonest rhwng dau berson Ifanc a doeth.
    Escuchado 16m 19s
  • Ceridwen ac Elenid

    11 OCT. 2022 · Yn y gyfres fer yma o bodlediadau Nerth yr Ifanc, mae Ceridwen yn sgwrsio, mwydro ac yn rhoi’r byd yn ei le hefo tri ffrind yn ei dro. A’r cyntaf ydy Elenid Alun, sydd yn sgwrsio am ei phenderfyniad hi i beidio dilyn y drefn ‘arferol’ o fynd i’r brifysgol, a chael yr hyder i ddilyn ei trywydd ei hun. Mwynhewch!
    Escuchado 22m 45s
  • P4 Sgwrs Llior a’r ‘baby lunatic’

    12 MAY. 2022 · ** Pennod arbennig ** Ma hon yn sgwrs boncyrs o hyfryd!  Yn y bennod gonest yma dan ni’n clywed am fywyd Emma, sy’n gweithio fel therapydd plant, ac sydd wedi cael sawl profiad heriol, fel mam ac fel therapydd. Mae Llior ac Emma yn cael sgwrs gonest am bob dim o post natal depression i hiwmor, ac o drio cadw dy hun yn gall ar ol profi genedigaeth trawmatic i deimlo fel Beyonce!!  (o.n ‘Wolfgang and the baby lunatic gan Charlie C King’ ydy enw’r nofel gyda llaw! Sy’n llawn hiwmor tywyll, gonestrwydd a realiti bywyd yr awdures. Ewch i brynnu copi! 🙂) 
    Escuchado 34m 53s
  • P3 Mari Hughes - byd llawn lliw

    5 MAY. 2022 · Yn y bennod yma dwi’n sgwrsio hefo Mari o Lansannan, sydd wedi dilyn gyrfa ym myd Celf. Dan ni’n sgwrsio am ddylanwad celf ar ei bywyd o ddydd i ddydd, a sut ma' hynny wedi ei galluogi hi i ddelio efo be' bynnag ma bywyd yn ei daflu ati. Ma' hon yn sgwrs llawn lliw, creadigrwydd, pwysigrwydd hunan-werth, a derbyn bod hi’n ocê i wneud camgymeriadau, a defnyddio’r rhwbiwr 'na o dro i dro, ac ail ddechra’ dylunio. Mwynhewch!
    Escuchado 58m 53s
  • P2 Dewi Glyn - Cobiau, chwerthin a chicio pêl

    20 ABR. 2022 · Persbectif, pêl-droed, teulu a hiwmor – sgwrs gynnes a gonest efo’r bridiwr ceffylau llwyddianus, Dewi Glyn. Wrth i fywyd fynd ar garlam, dan ni’n cael cyfle i isda lawr dros baned a rhoi’r byd yn ei le (efo’r gath!). Dyma sgwrs am bob dim sy’n bwysig i’r tad, ffarmwr, adeiladwr a’r Cymro sydd â’i wreiddiau yn ddwfn ym Mhlas yn Trofarth, Llangernyw. Dan ni’n sgwrsio am bwysigrwydd persbectif, nerth a chryfder cymeriad, y wers o fethiant, a darganfod be sy’n gyffredin rhyngdda fo a’r teulu brenhinol. O ia – a phêl droed!
    Escuchado 50m 58s
  • P1 Llior Radford – O Lannefydd i Lundain

    7 ABR. 2022 · Magwyd Llior ar Fferm ger Llannefydd, ac ar ôl treulio amser yn gweithio yn myd byrlymus y byd ffasiwn yn Llundain a thu hwnt mae hi wedi dychwelyd yn nôl adre i’w milltir sgwâr, efo perspectif newydd ar fywyd. Yn y bennod yma, ma Llior yn sgwrsio am sut wnaeth ei magwraeth hi fel merch ffarm olygu iddi fagu’r cryfder i oroesi byd heriol y byd ffasiwn yn Llundain, y gwersi mae hi wedi eu dysgu ar hyd y ffordd, a’r hyn sydd bellach yn bwysig iddi ar ôl gwthio ei ffiniau a chyflawni gyrfa lwyddianus.
    Escuchado 53m 43s
  • Cyflwyniad

    3 ABR. 2022 · Be' ma' cryfder meddwl yn ei olygu mewn gwahanol sefyllfaoedd? O’r ffarm i’r weinidogaeth, o’r mynyddoedd i’r ‘stafell ddosbarth - stay tuned i ffeindio allan!
    Escuchado 58s
  • Nerth dy Ben

    2 FEB. 2021
    Escuchado 44m 15s

Mae’r gyfres yma yn rhoi’r cyfle i ni sgwrsio a dod i ‘nabod pobol anhygoel ein cymuned sydd i gyd yn eu tro wedi defnyddio ac adnabod eu cryfderau mewn...

mostra más
Mae’r gyfres yma yn rhoi’r cyfle i ni sgwrsio a dod i ‘nabod pobol anhygoel ein cymuned sydd i gyd yn eu tro wedi defnyddio ac adnabod eu cryfderau mewn amryw ffyrdd.
Ymunwch hefo ni mewn sgwrs lle dan ni’n dathlu yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw fel unigolion, a’r hyn oll dan ni’n ei gyflawni hefo nerth.
mostra menos
Contactos
Información

Parece que no tienes ningún episodio activo

Echa un ojo al catálogo de Spreaker para descubrir nuevos contenidos.

Actual

Portada del podcast

Parece que no tienes ningún episodio en cola

Echa un ojo al catálogo de Spreaker para descubrir nuevos contenidos.

Siguiente

Portada del episodio Portada del episodio

Cuánto silencio hay aquí...

¡Es hora de descubrir nuevos episodios!

Descubre
Tu librería
Busca