Contactos
Información
Croeso i bodlediad Barddas, y lle i glywed sgyrsiau rhwng beirdd gorau Cymru. Dilynwch Barddas ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y ddiweddaraf am ein cyhoeddiadau, cylchgrawn a digwyddiadau byw....
mostra másPodlediad Barddas
Podlediad Barddas
-
Cariad, tai bach, a Barddas
24 FEB. 2023 · Sgwrs ddiddorol rhwng Mari Lovgreen, Twm Morys, Bethan Gwanas ac Alaw Griffiths am Barddas a llyfrau newydd. Mwynhewch. -
Cerddi T. Gwynn Jones
13 OCT. 2022 · Yn y bennod hon mae Cydlynydd Barddas, Alaw Griffiths, yn holi Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 Llŷr Gwyn Lewis a Dr Elen Ifan am eu perthynas â T. Gwynn Jones i ddathlu cyhoeddi llyfr newydd sbon gan Gyhoeddiadau Barddas, sef ‘Cerddi T. Gwynn Jones’ a olygwyd gan Llŷr. Hefyd mae’r Prifardd Twm Morys yma i drafod rhifyn diweddaraf cylchgrawn ‘Barddas’ (Hydref 2022) gan gynnwys datgelu enwau pedwar bardd arall oedd yn deilwng yng nghystadleuaeth y gadair eleni. -
Rhwng Teifi, Dyfi a’r Don
8 AGO. 2022 · Recordiad byw o bodlediad Barddas gyda Eurig Salisbury, Idris Reynolds ac Elinor Gwynn yn trafod beirdd a barddoniaeth leol. -
Beth yw Barddas?
29 JUL. 2022 · Beth yw Barddas?! Gwrandewch ar bennod diweddaraf Podlediad Barddas i ddarganfod yr ateb! Gyda Twm Morys, Tudur Dylan Jones, Alaw Griffiths ac Alaw Mai Edwards. -
Barddoniaeth, natur, a’r iaith Gymraeg
15 ABR. 2022 · Y Prifardd Aneirin Karadog sy'n sgwrsio am berthynas barddoniaeth a’r iaith Gymraeg â natur, gyda’r Prifardd Twm Morys, Bethan Wyn Jones, Rhys Dafis (golygydd cyfrol o gerddi am natur, Inc yr Awen a’r Cread) a Sara Louise Wheeler. -
Pennod Y Merched
8 MAR. 2022 · Casi Wyn, Menna Elfyn, Sian Northey ac Elinor Wyn Reynolds yn trafod barddoniaeth, llenyddiaeth, 'sgwennu, bod yn greadigol, a chanu mewn band. Cyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2022. Rhybudd: Mae 'na thema anaddas i blant ar ddiwedd y bennod wrth i’r gerdd olaf trafod trais. -
Cerdd a llun
16 FEB. 2022 · Beth yw perthynas cerdd a llun? Pam fod rhai beirdd prin yn cyhoeddi eu cerddi? Pa erthyglau diddorol sydd yn rhifyn y Gaeaf 2022 o gylchgrawn Barddas? Anni Llŷn, Alaw Mai Edwards, a’r Prifeirdd Twm Morys, Idris Reynolds ac Alan Llwyd sy’n trafod, yng nghwmni Alaw Griffiths, Cydlynydd Barddas. -
Gwledd y Nadolig
15 DIC. 2021 · Mae Nadolig ar y gweill ac mae genom ni wledd ar eich cyfer chi yn y podlediad hwn. Sgyrsiau difyr am gylchgrawn a’n llyfrau diweddaraf, syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig a llawer mwy. Yn ymuno efo Alaw Mai Edwards mae’r Prifardd Elwyn Edwards, Y Prifardd Twm Morys, ac Alaw Griffiths, cydlynydd Barddas. -
Gŵyl Gerallt 2021
21 OCT. 2021 · Yn yr ail bennod o bodlediad Barddas yr ydyn yn mwynhau cwmni Laura Karadog, Twm Morys, Grug Muse a Gruffudd Antur. Podlediad a recordiwyd fel rhan o ŵyl Gerallt a chynhaliwd yn Nhŷ Newydd Llanystumdwy ar ddydd Sadwrn yr 2il o Hydref 2021. -
Croeso i bodlediad Barddas
19 JUL. 2021 · Y Prifardd Mererid Hopwood sydd yn sgwrsio efo’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan am ei lyfr DNA. Mae Geraint Roberts yn trafod ein llyfr o’r archif, Siarad Trwy'i Het gan Karen Owen a chlywn sgwrs efo’r Prifardd Twm Morys, golygydd cylchgrawn Barddas, cyn i Gwyneth Glyn darllen un o gerddi Arwyn Evans.
Croeso i bodlediad Barddas, y lle i glywed sgyrsiau rhwng beirdd gorau Cymru. Dilynwch Barddas ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y ddiweddaraf am ein cyhoeddiadau, cylchgrawn a digwyddiadau byw....
mostra másInformación
Autor | Y Pod Cyf. |
Categorías | Arte |
Página web | www.barddas.cymru |
cysylltu@ypod.cymru |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company